|
|
Beth yn union yw
Tu Mewn?
Agorwyd
ein hystafell arddangos ceginau ac ystafelloedd ymolchi ym
mis Awst 2005 yn Nefyn, ger Pwllheli yng Ngwynedd, gan Dafydd
Wigley.
Lleolir Tu Mewn mewn ystafell arddangos fawr. Mae’r
ffenestri mawr yn caniatáu
i oleuni lifo dros y ceginau a’r ystafelloedd ymolchi
a arddangosir, ac maent i'w gweld ar eu gorau.
Ceginau
Mae saith cegin i’w gweld – efo dwy ohonynt
yn gweithio, er mwyn i chi gael cyfle i brofi’r cyfarpar.
Mae Masterclass Kitchens a Stoneham
Kitchens yn
cynnig ceginau o safon a cheginau parod.
Ceir amrywiaeth helaeth o gyfarpar cegin gan Miele,
Bosch a Neff,
ac ar gyfer y bobl hynny sy’n chwilio am naws mwy
gwledig i’w cegin – mae Tu Mewn wedi eu penodi
i werthu cynnyrch Britannia.
Ac yn goron ar y cyfan, y cyffyrddiad olaf, ceir dewis
helaeth o arwynebau gwaith (megis gwenithfaen, DuPont
Corian, Duropal, Gwydr a choed),
ategolion a theils - marmor, llechen, terracotta, porslen,
gwydr neu fosaig - chi biau’r dewis!
Stafelloedd Molchi |
|
| Gall ystafell
ymolchi newydd ychwanegu gwerth sylweddol at eich cartref.
Mae’r
dewis helaeth sydd gan Tu Mewn i’w cynnig yn cynnwys Villeroy & Boch, Aqata, Keuco, Utopia, Bisque,
Zehnder, JIS, Hansgrohe, Mira ac Aqualisa.
Gallwch weld baddon trobwll yn gweithio â’ch
llygaid eich hunan, a phenderfynu faint mwy o bleser
y byddai’n ei ychwanegu at gymryd baddon! |
 |
|
Mae ceginau ac
ystafelloedd ymolchi yn fuddsoddiad sylweddol
yn eich cartref.
Er mwyn sicrhau eich bod yn gwbl fodlon, trefna Tu Mewn bod
rhywun yn dod i weld eich cartref a chynllunio’r gegin
neu ystafell ymolchi. Efo cymorth ein cynlluniau
cyfrifiadurol,
gallwch hyd yn oed weld y gegin neu'r ystafell ymolchi,
a’r holl osodion, yn eu lle! Dim ond wedyn
y symudwn ymlaen at eu gosod, a gall ein gweithwyr proffesiynol
ni ein hunain wneud hynny, os hoffech chi. Gwasanaeth
cyfeillgar, personol bob tro! Nid oes cyfrifiadur yn y byd sy’n gallu rhoi gwasanaeth
personol i chi. Gan fod Tu Mewn yn fusnes teuluol, dyma’n
union sydd gennym i’w gynnig. Dywed Emma Williams: “Rydym
yn hynod falch o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni yma.
Mae’r arddangosfeydd yn drawiadol, ond nid yw unrhyw
fusnes yn mynd i lwyddo yn yr oes gystadleuol sydd ohoni
heb foddhad cwsmeriaid ac argymhellion personol. Trwy gynnig
dim ond cynhyrchion a gwasanaeth o’r safon uchaf, edrychwn
ymlaen at ddyfodol disglair.”  Huw Williams, y diweddar Christine
Jones, Dafydd Wigley ac Emma Williams
yn dathlu agoriad swyddogol Tu Mewn
|
|
|
|
|