| |
|
Cynllunio
a Gosod Ceginau, Stafelloedd Molchi, Lloftydd a Swyddfeydd.
Peiriannau a Nwyddau • Teils • Arwynebau Gwaith
|
|
| |
Mae
Tu Mewn Cyf yn swatio ar gyrion Pwllheli, ymhell o
heriol bwli’r dref, ac mae gan yr ystafell arddangos
stafelloedd molchi, ceginau a stafelloedd gwely lawer
mwy i’w
gynnig nag a feddyliech ar yr olwg gyntaf. Camwch i mewn, ac fe gewch eich syfrdanu gan
ehangder yr ystafell brysur sy’n eich cyfarch.
Nid dim ond casgliad o gynhyrchion hardd sydd yma -
mae gan Du Mewn dros 15 o ystafelloedd smala, efo offer
ymarferol mewn nifer ohonyn nhw i chi gael eu gweld,
eu teimlo a’u profi cyn eu prynu.
|
 |
|
| Mae’r ystafell arddangos yn
estyn dros 250m², ac fe wirionwch ar yr awyrgylch caredig
a hamddenol, heb sôn am yr enghreifftiau gwych o’r
gorau sydd gan y byd cynllunio i’w gynnig ar gyfer ceginau,
ystafelloedd ymolchi a llofftydd, ac mae rhywbeth at boced
pawb. |
 |
Mae’r tîm yn cynnig gwasanaeth cynllunio a gosod
ffantastig, sy’n golygu bod pob cegin, ystafell ymolchi,
llofft neu stydi yn cael eu teilwra’n arbennig ar gyfer
eich cartref. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud y defnydd
gorau posib o bob twll a chornel mewn ystafell, a’i
chynllunio’n arbennig ar gyfer y ffordd y mae eich
teulu chi’n byw.
|
|
|
|
Gobeithio
y byddwch yn mwynhau'r wefan. Byddwn yn hapus
i ymateb i unrhyw gwestiwn sydd gennych ynglŷn
a'n cynnyrch neu'n gwasanaethau.
Petaech yn dymuno cysylltu â ni am
fwy o wybodaeth, yna mae croeso i chi wneud hynny;
fe wnawn ein gorau i helpu. Edrychwn ymlaen i glywed
gennych yn fuan.
 Dewch draw i'n gweld. Mae gennym ystod eang
o geginau, stafelloedd molchi a lloftydd
i'w gweld yn ein canolfan yn Nefyn, ger Pwllheli yng Ngwynedd, Gogledd Cymru.
|
|
|
|
|
|
|
|
|