Tu Mewn Cyf | Ceginau, Stafelloedd Molchi, Stafelloedd Gwely a Swyddfeydd
 
Hafan
Amdanom Ni
Ceginau
Ystafelloedd Ymolchi
Llofftydd
Swyddfeydd
Prosiectau
Gwobrau
Lleoliad
Cysylltu
Archebu Llyfryn
Diwedd y ddewislen
Ceginau, Stafelloedd Molchi, Llofftydd a Swyddfeydd Gogledd Cymru. Tu Mewn Tu Mewn Cyf.
Ffordd Dewi Sant
Nefyn
Pwllheli
Gwynedd  LL53 6EG
Ceginau > Ystafelloedd Ymolchi > Llofftydd
English Version
 

Pwyntiau i'w cysidro pan yn dewis eich stafell molchi gan Tu Mewn

Dewisiadau Bath

   •   Y maint a’r siâp a fyddai’n gweddu eich ystafell ymolchi orau.
   •   Pa ddeunydd:
        •   Mae acrylig yn cynnig hyblygrwydd ar gyfer sawl siâp a chynllun.
        •   Mae dur ar gyfer baddonau petryal yn gryf ac yn gwisgo’n dda.
        •   Cryfder haearn bwrw ar gyfer baddonau moethus sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain a
             baddonau petryal.
        •   Gellid gosod system sba / trobwll mewn sawl baddon acrylig.

Dewisiadau Cawod

   •   Cabined hunangynhaliol, sy’n sefyll ar ei ben ei hun, efo opsiynau hydro-dylino a sawna.
   •   Cawod efo drws a phanel gwydr.
   •   Falf neu golofn hydro-dylino dros faddon.
   •   Cymysgwyr a reolir â llaw neu â thermostat.

Dewis 'Suite' Stafell Molchi

   •   Ceir basnau o bob math a maint ar gyfer gwahanol ofynion. Cewch ddewis o fasnau
        pedestal, basnau lled-bedestal, basnau harddwch, basnau mewn arwyneb gwaith, basnau
        cul modern, a basnau ystafell gotiau.
   •   Mae tri phrif math o setiau toiled ar gael:
        •   Mae setiau ar-y-llawr ar gael fel set clos gypledig (lle mae’r pan a’r sistern efo’i gilydd)
             neu setiau lefel-isel (lle ceir pibell fer yn cysylltu’r pan a’r sistern ynghyd).
        •   Setiau cefn-wrth-wal, lle mae’r sistern wedi ei guddio y tu ôl i wal ffug, sy’n golygu mai
             dim ond y pan sy’n y golwg. Mae’r pan ar y llawr, ac mae’r holl bibelli wedi eu cau i
             mewn, sy’n golygu ei fod yn hawdd ei lanhau. Dim ond rhai setiau sy’n cynnig yr opsiwn
             cefn-wrth wal.
        •   Mae gan setiau ar-y-wal sistern gudd hefyd, ond mae’r pan wedi ei osod ar blatfform
             uwch y llawr, sy’n ei gwneud hi’n arbennig o hawdd glanhau o dan ac o amgylch y pan.
   •   Mae bidets sefyll-ar-y-llawr, cefn-wrth-wal neu ar-y-wal i’w cael, i gyd-fynd â pha bynnag
        doiled a ddewiswyd gennych. Os nad oes llawer o le gennych chi, beth am set doiled
        Multiclin sy’n troi eich toiled yn bidet hefyd! Cofiwch wneud yn siwr bod y Multiclin yn
        addas ar gyfer y set tŷ bach a ddewiswyd gennych.

Dewisiadau Dodrefn

Mae llefydd storio’n hanfodol ym mhob rhan o’r cartref, ac mae hynny’r un mor wir am yr ystafell ymolchi.

Wrth feddwl yn ofalus yn y cyfnod cynllunio cynnar, gallwch fanteisio i’r eithaf ar y lle sydd gennych ar gyfer storio, boed hynny ar gyfer ystafell gotiau fach neu brif ystafell wely.

Cewch ddewis o unedau bach, unedau cornel cryno, unedau pedestal neu unedau basn modern a dodrefn. Rydym hefyd yn cynnig dodrefn arbennig i ategu rhai mathau o gynnyrch, ac mae basnau harddwch ac unedau cyfun ar gael ar wahân.

Yr unig gyfyngiad yw maint a’ch dychymyg chi.

Dewisiadau 'Brassware'

Cawod foethus ar ddangos yng nghanolfan ceginau a stafelloedd molchi Tu Mewn

Mae sawl amrywiad a steil i’w cael yn newis helaeth Tu Mewn.

Ar gyfer basnau:
   •   Mae tapiau piler yn ddau dap ar wahân, un poeth ac un oer.
   •   Mae tapiau cymysg yn dod o un ffynhonnell efo dwy droell ar wahân i weithio’r tapiau - un
        poeth ac un oer.
   •   Mae tapiau cymysg un lifer yn dod o un ffynhonnell, efo un lifer yn rheoli llif y dwr a’r
        tymheredd.
   •   Mae tapiau cymysg electronig yn dod o un ffynhonnell, ac mae rheolwr tymheredd ar ochr y
        ffynhonnell honno ac mae’r dwr yn llifo pan dorrir y pelydr isgoch (mae'n rhedeg efo batri
        neu efo trydan).

 
AQATA  BISQUE  hansgrohe  William Ball  KEUCO  Villeroy & Boch  Miele

  E-Bost: info@tumewn.co.uk  |  Ffôn: 01758 721081  |  Ffacs: 01758 721645

Allweddi Mynediad  

© 2005-2007 Tu Mewn Cyf.
Rhif TAW: 851006169. Rhif Cwmni: 5414814. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr.
Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys    Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C    Cascading Style Sheets (CSS) Dilys  
Dylunio Gwe Gogledd Cymru gan DREAM Internet Solutions Cyf
Ceginau gan Tu Mewn Ystafelloedd Ymolchi gan Tu Mewn Llofftydd gan Tu Mewn Swyddfeydd gan Tu Mewn